Mae Menter Iaith Rhondda Cynon Taf yn trefnu, hyrwyddo a chefnogi gweithgareddau a digwyddiadau Cymraeg yn addas ar gyfer teuluoedd. Rydym yn cydweithio’n aml gyda Mudiad Meithrin, Cymraeg i Blant ac adran Gwasanaethau’r Blynyddoedd Cynnar a chymorth i deuluoedd Rhondda Cynon Taf er mwyn sicrhau darpariaeth Cymraeg ar draws y sir.