Mae’r Clwb Drama yn gyfle gwych i bobl ifanc ymarfer a datblygu sgiliau creadigol. Gyda’r cyfle ym mhob sesiwn i chwarae gemau a gwella sgiliau drama. Yn ystod y flwyddyn mae’r clwb yn ysgrifennu ac yn perfformio dramâu i’r cyhoedd. Yn y gorffennol mae’r Clwb Drama wedi perfformio dramâu llwyddiannus yn ystod digwyddiadau cyhoeddus. Bydd y Clwb yn perfformio ym Mharti Ponty 2018.
Mae cyfle i bobl ifanc wirfoddoli a hyfforddi yn y maes creadigol yn ystod y sesiynau
Addas i blant blynyddoedd 4 – 7
Canolfan Dysgu Gydol Oes Gartholwg
18:00 – 19:30
Gallwch dalu gyda siec (sieciau yn daladwy i RCTCBC) arian parod neu gyda cherdyn wrth y dderbynfa.
£3.50 y sesiwn | £25 hanner tymor | £40 tymor llawn