Mae’r Fenter yn hybu ymwybyddiaeth a mwynhad o gerddoriaeth Gymraeg, trwy amrywiaeth eang o ddigwyddiadau yn ein calendr. Gan hefyd cefnogi pobl ifanc i greu cerddoriaeth Cymraeg eu hunain, a rhoi llwyfan i grwpiau Cymraeg hen a newydd.
Cliciwch fan hyn i wrando ar ein Rhestr Chwarae am flas o Gerddoriaeth gyfoes Cymraeg!
Sesiwn Sul
Mae’r Fenter yn cynnal rhaglen radio yn fyw ar GTFM pob nos Sul rhwng 20:00 a 22:00. Mae’n gyfle gwych i wrando ar gerddoriaeth, sgyrsiau a chyfweliadau ar 107.9FM yn ardal RhCT a Pontypridd, neu cliciwch ar y linc isod i wrando o unrhywle, yn fyw rhwng 20:00 a 22:00 ar nos Sul www.gtfm.co.uk/tunein/ <http://www.gtfm.co.uk/tunein/>
Mae yna groeso i unrhyw un ymuno gyda ni ar y sioe, neu i recordio eitemau bach neu fawr yn y maes. Cysylltwch catrinreynolds@menteriaith.cymru am fwy o wybodaeth.
Cliciwch isod hefyd i ddilyn y Sesiwn Sul ar Facebook, Trydar neu Instagram, am lond llwyth fwy o wybodaeth y rhaglen.
Gigs
Mae’r fforymau ieuenctid yn cynnal gigiau a digwyddiadau cerddoriaeth Cymraeg yn aml yn ystod y flwyddyn. Mae yna wastad rhywbeth i bawb.
Cliciwch yma i weld beth sy’n dod lan!
Gweithdai
Mae’r Fenter yn darparu gweithdai aml gyda Mei Gwynedd ac eraill, i greu ac i recordio cerddoriaeth gyda bandiau a pherfformwyr hen a newydd yr ardal. Fe allwch chi wrando ar rhai o waith recordio’r Fenter fan hyn.