Cliciwch arnaf i weld = Gloran Mis Mawrth – Ebrill 2020
Sefydlwyd Y Gloran yn 1978 ac mae wedi ymddangos yn fisol yn ddi-dor ers hynny. Ceir yn y papur erthyglau nodwedd, newyddion lleol, colofn olygyddol, cartŵn gan Siôn Owen, adran ysgolion ayb.
Mae’r Gloran yn ceisio meithrin ysgrifenwyr newydd. (Cysylltwch os ydych chi â diddordeb)
Cennard Davies
Ffôn:01443 435563.
Pris : 20c
Cliciwch arnaf i weld = Tafod Elai – Ebrill 2020
Cyhoeddwyd rhifyn cyntaf Tafod Elái yn Hydref 1985. Ei dalgylch yw’r ardal o Bontypridd i Lanhari ac o Donyrefail i Bentyrch a Ffynnon Taf. Mae llu o ohebwyr yn danfon erthyglau yn rheolaidd o wahanol bentrefi a threfi’r ardal a daw newyddion yn gyson o’r Ysgolion Cymraeg. Mae’n bapur deniadol gyda llawer o luniau lliw a digon o straeon i’w darllen.
Penri Williams
E-bost: pentyrch@tafelai.com
Gwefan: www.tafelai.com
Pris: £1
Cliciwch arnaf i weld = Clochdar – Ebrill 2020
Clochdar yw papur bro ardal Cwm Cynon a’r cylch yn sir Rhondda Cynon Taf. Mae’r ardal yn cynnwys y wlad rhwng Penderyn ac Abercynon. Daeth y rhifyn cyntaf i olau dydd yn Rhagfyr 1987.
Susan Jenkins
E-bost: clochdar@gmail.com
Pris : 60c