Cwrs hyfryd sydd yn eich helpu i gyfathrebu gyda phlant o dan 7 oed drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’n wych i rieni, rhieni cu a phobl sy’n gweithio gyda phlant bach.
Y nod yw eich galluogi chi i gyfathrebu gyda phlant trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn ystod y cwrs mi fyddwch chi yn canolbwyntio ar:
• Ofyn cwestiynnau
• Rhoi gorchmynion syml
• Darllen
• Canu
• Chwarae gemau
• Cyfarchion a llawer mwy
Beth bynnag yw’r rheswm dros ddysgu Cymraeg, boed i ddarllen stori gyda’ch plentyn neu i helpu gyda’r gwaith cartref, rydym ni yma gyda chi bob cam.
Nawr yw’r amser i ddysgu, gyda’ch gilydd.